OCR Safon Uwch Hanes yr Henfyd Lefel 3
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Lefelau A
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
Parth Dysgu Torfaen
Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2025
Hyd
2 flynedd
Gofynion Mynediad
I gofrestru ar y cwrs hwn, bydd angen i chi feddu ar o leiaf 5 cymhwyster TGAU, gradd C neu uwch, ac o leiaf gradd C mewn Saesneg a Mathemateg/Rhifedd.
Yn gryno
Cwrs dwy flynedd o hyd yw hwn, sydd yn defnyddio dull sy鈥檔 seiliedig ar ffynonellau i astudio digwyddiadau, unigolion, cymdeithasau a datblygiadau arwyddocaol, yn ogystal 芒 materion ynghylch hanes Groegaidd a Rhufeinig o fewn eu cyd-destun hanesyddol ehangach.
Dyma'r cwrs i chi os...
...oes gennych angerdd dros hanes ac rydych yn chwilfrydig am yr henfyd
...ydych yn mwynhau ymchwilio a darganfod ffeithiau gan ddefnyddio gwahanol fathau o ffynonellau
...oes gennych ddiddordeb mewn astudio hanes, hen hanes, archaeoleg neu'r clasuron yn y Brifysgol.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Rhennir y cwrs yn 4 uned a addysgir dros ddwy flynedd gyda chymhwyster Lefel A llawn yn cael ei ennill ar ddiwedd y cwrs.聽
Yn y flwyddyn gyntaf byddwch yn cwblhau dau fodiwl. Bydd y modiwl cyntaf yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng y taleithiau Groegaidd a di-Groeg rhwng 492 a 404 CC, gan dalu sylw arbennig i Sparta, Athen a Phersia. Bydd yr ail yn ymchwilio i deyrnasiad pum Ymerawdwr cyntaf Rhufain, sef Augustus, Tiberius, Gaius, Claudius a Nero.聽
Yn yr ail flwyddyn byddwch yn cwblhau dau fodiwl manwl. Bydd y modiwl cyntaf yn mynd i'r afael 芒 thwf Macedon rhwng 359-323 CC gan gynnwys gyrfa a marwolaeth Alecsander Fawr. Bydd yr ail yn ystyried chwalfa'r Weriniaeth Hwyr rhwng 88 a 31 CC a'r r么l a聽chwaraewyd gan unigolion megis Gnaeus Pompey, Julius Caesar, Mark Anthony a Cleopatra. Wrth astudio'r cwrs hwn byddwch yn datblygu sgiliau pwnc-benodol. Bydd hefyd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy pwysig megis sgiliau ymchwil, y gallu i ddadansoddi, gwerthuso a chyfathrebu gwybodaeth a'r gallu i lunio dadl. Byddwch hefyd yn datblygu eich sgiliau meddwl beirniadol a threfnu, a'r gallu i weithio'n annibynnol, sgiliau sydd i gyd yn hanfodol ar gyfer y brifysgol.
Ar 么l cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn ennill gradd Safon Uwch mewn Hanes yr Henfyd, fodd bynnag mae'n bosibl cofrestru ar gyfer cymhwyster UG, a byddwch yn sefyll yr arholiad ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf. Bydd myfyrwyr Hanes yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr gyda phrifysgolion mawreddog, mynychu ysgolion haf a chymryd rhan mewn teithiau sy鈥檔 seiliedig ar hanes i hyrwyddo dealltwriaeth ehangach o'r pwnc hwn.
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I ymrestru ar y cwrs hwn, bydd angen o leiaf 5 TGAU ar radd C neu鈥檔 uwch arnoch, ac o leiaf gradd C mewn Saesneg a Mathemateg/Rhifedd.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Pwnc academaidd traddodiadol cydnabyddedig yw Hanes yr Henfyd, a fydd yn eich galluogi i symud ymlaen i addysg uwch neu gyflogaeth. Mae cyfleoedd ar gael i raddedigion hanes mewn amrywiaeth o broffesiynau gan gynnwys y Gyfraith, Addysg, Busnes, Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a gwaith Amgueddfa.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd rhaid i chi wneud cyfraniadau ariannol at gost teithio ar gyfer ymweliadau addysgol. Byddai ymweliadau tebygol yn cynnwys cestyll a safleoedd treftadaeth lleol, yn ogystal 芒鈥檙 cyfle i gymryd rhan mewn taith dramor sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 cwrs Hanes Safon Uwch.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
PFAL0198Y1
Parth Dysgu Torfaen
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a鈥檜 canslo os tybir nad yw鈥檔 bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu鈥檔 ansicr ai hwn yw鈥檙 cwrs addas i chi?
Cysylltwch 芒鈥檔 T卯m Recriwtio Myfyrwyr