CBAC Mathemateg Bellach UG Lefel 3
Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Lefelau A
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
Parth Dysgu Torfaen
Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
O leiaf 5 TGAU gradd A*-C, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg a gradd A* neu A mewn Mathemateg
Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn cynnig cipolwg difyr ac addysgiadol ar Fathemateg.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Oes gennych ddiddordeb brwd mewn dilyniant mathemategol
... Ydych eisiau dilyn gyrfa mewn Addysgu, Cyfrifeg neu Ystadegau
... Ydych yn gweithio'n galed ac yn rhagweithiol
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae Mathemateg Bellach yn ehangu a dyfnhau'r meysydd pwnc a astudir ym Mathemateg Lefel UG/U. Mae'n gymhwyster Lefel UG/U ar wah芒n, ac mae modd ymgymryd ag o ochr yn ochr 芒'r opsiwn Mathemateg arferol yn unig. Cewch eich cyflwyno i bynciau newydd, megis Matricsau a Rhifau Cymhleth, sy'n hanfodol mewn nifer o gyrsiau gradd ag elfen gref o fathemateg. Mae'r cwrs hwn wedi'i rannu i dair elfen:聽 Mathemateg Bur, Ystadegau a Mecaneg.
Pan fyddwch yn ei gwblhau, byddwch yn ennill y cymwysterau canlynol:
- Mathemateg Bellach Lefel U CBAC
- Gweithgareddau sgiliau
- Saesneg a Mathemateg
Rhaid sefyll mathemateg Lefel A er mwyn astudio mathemateg bellach Safon Uwch
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Er mwyn cael mynediad ar y cwrs, mae angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd A*-C, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg a gradd A* neu A mewn Mathemateg.
Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal 芒 pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y cwrs a'r gallu i gymell eich hun. Mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun gan fodloni terfynau amser gwaith cartref yn gyson a chymryd rhan mewn asesiadau ffurfiol cyson.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Prifysgol, yn cynnwys graddau sydd ag elfen gref o Fathemateg, megis Mathemateg, Peirianneg, Gwyddorau, Cyfrifiadura a Chyllid ac Economeg. Byddwch yn cael budd enfawr o ymgymryd 芒 Mathemateg Bellach i o leiaf Lefel UG. Mae'n bwnc a werthfawrogir yn fawr gan gyflogwyr.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae'r holl gostau'n cael eu hadolygu a gallant newid.
Mae 麻豆传媒团队 wedi ymrwymo i gynnig cwricwlwm amrywiol a chyfoethog i鈥檞 ddysgwyr Lefel A ac UG ac mae鈥檔 awyddus i sicrhau bod dysgwyr ledled Gwent yn gallu cael mynediad at bynciau sydd yn hanesyddol yn recriwtio niferoedd bach. Er mwyn sicrhau argaeledd, cynigir Sbaeneg a Ffrangeg ar ein Campws Crosskeys a chynigir y Gymraeg ar ein campysau Parth Dysgu Crosskeys a Blaenau Gwent. Bydd Cerddoriaeth a Mathemateg Bellach yn cael eu cynnig ar bob un o鈥檔 campysau. Os bydd eich dewis o bynciau yn golygu bod angen teithio rhwng campysau, cysylltwch 芒'n hadran dderbyniadau am ragor o wybodaeth.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
PFAS0138A1
Parth Dysgu Torfaen
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2025
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a鈥檜 canslo os tybir nad yw鈥檔 bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu鈥檔 ansicr ai hwn yw鈥檙 cwrs addas i chi?
Cysylltwch 芒鈥檔 T卯m Recriwtio Myfyrwyr