麻豆传媒团队

En

Hyfforddiant Gyrwyr HGV / LGV CE (Dosbarth 1): Mynediad Uniongyrchol o Gar

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Oddi ar y safle

Sector

Sector
Trafnidiaeth a Logisteg

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Dyddiau
Dyddiau
Hyblyg

Yn gryno

Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i yrru cerbydau cymalog categori CE (Dosbarth 1) LGV, y categori cerbyd nwyddau mwyaf y gallwch ei gyflawni.

Cyfeirir yn gyffredinol at y cerbyd hwn fel lori gymalog, sydd fel rheol wedi ei gwneud o naill ai uned tractor gonfensiynol a threlar neu lori a threlar 芒 bar tynnu arno (gwagen a cherbyd tynnu).

Mae鈥檙 cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy鈥檔 cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd 芒 ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy鈥檔 addas i鈥檞 ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... Unrhyw un sy鈥檔 19+ oed, yn byw yng Nghymru, yn gyflogedig, ac yn ennill llai na 拢32,371 y flwyddyn

... Unrhyw un sydd eisoes yn meddu ar drwydded yrru car. Nid oes angen i chi fod wedi ei meddu am gyfnod penodol o amser

... Gyrwyr cymwys sy鈥檔 awyddus i wella eu sgiliau a dilyn gyrfa yn y diwydiant cludo fel gyrwyr cerbyd nwyddau mawr

Cynnwys y cwrs

Cwblheir yr hyfforddiant ymarferol i yrwyr ar sail 1 i 1. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn dysgu sut i wirio am ddiffygion, gyrru a symud cerbyd nwyddau mawr cymalog a dysgu i鈥檞 ddadfachu/ail-fachu鈥檔 ddiogel ac i鈥檙 safon ofynnol.

Hyd y Cwrs: Cwblheir yr hyfforddiant ymarferol i yrwyr ar sail 1 i 1 dros 5 diwrnod, yn cynnwys eich prawf ymarferol.

Mae dwy ran i鈥檙 prawf ymarferol:

  • ymarfer symud cerbyd am yn 么l mewn 'si芒p S' i fae llwytho + gallu arddangos y weithred o ddadfachu/ail-fachu yn ddiogel
  • gyrru ar y ffordd am 60 munud

Byddwch yn dychwelyd am ddiwrnod ychwanegol i gwblhau cymhwyster Modiwl 4 y Dystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol i Yrwyr (CPC), y byddwch ei angen ar gyfer defnyddio eich trwydded LGV at ddibenion gwaith.

Bydd yr opsiynau hyfforddiant yn dibynnu ar le'r ydych chi'n byw gan ein bod yn gweithio gyda dau ddarparwr hyfforddiant i ddarparu'r cwrs hwn, Heads of the Valley a Monex Academy.

Os oes un yn well gennych na'r llall, yna nodwch hyn ar eich cais os gwelwch yn dda.

Gofynion Mynediad

Cyn yr hyfforddiant ymarferol, bydd angen i chi:

  • gwblhau asesiad meddygol er mwyn gwneud cais am eich trwydded dros dro
  • llwyddo yn y profion theori LGV perthnasol

Trefnir yr elfennau hyn ar eich rhan.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bwriad rhaglen PLA yw darparu cyngor ac arweiniad o safon ar yr yrfa i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac wedi eu dysgu.

Cyn i chi gael eich ymrestru ar eich cwrs sydd wedi'i ariannu gan PLA, bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei drafod gyda chi er mwyn sicrhau bod y dysgu cywir wedi cael ei ystyried.

Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:

  • addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd perthnasol
  • profiad blaenorol o fewn y diwydiant neu faes
  • dyheadau gyrfa yn y dyfodol
  • ymrwymo i'r amser sydd ei angen

Bydd hyn hefyd yn cynnwys trafodaeth benodol ar y meysydd isod ar gyfer y cwrs hwn:

  • dyheadau gyrfa i ddod yn yrrwr ac ar gyfer ennill trwydded
  • rheswm dros ddewis categori trwyddedu
  • profiad blaenorol o yrru cerbydau mwy neu beiriannau
  • anghenion cefnogi ychwanegol ar gyfer profion meddygol neu theori
  • mynediad at liniadur/cyfrifiadur/llechen/ff么n clyfar er mwyn cwblhau adolygu theori ac ymrwymiad amser ar gyfer hyn
  • prawf meddygol/dros dro neu brawf theori a gwblhawyd cyn hyn

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio Hyfforddiant Gyrwyr HGV / LGV CE (Dosbarth 1): Mynediad Uniongyrchol o Gar?

MPLA0126AA
Oddi ar y safle

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a鈥檜 canslo os tybir nad yw鈥檔 bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu鈥檔 ansicr ai hwn yw鈥檙 cwrs addas i chi?

Cysylltwch 芒 ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.