麻豆传媒团队

En

Tystysgrif mewn Addysg Uwch: Iechyd a Lles Cymunedol

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Iechyd, Gofal a鈥檙 Blynyddoedd Cynnar

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
17 Medi 2024

Yn gryno

Byddwch yn dysgu am anatomeg a ffisioleg ddynol, materion iechyd cymunedol, cyfraith gofal iechyd a moeseg, ac yn datblygu ystod o sgiliau ymarferol i'w defnyddio mewn iechyd a llesiant cymunedol. Byddwch yn gwella eich sgiliau cyfathrebu cyffredinol, gweithio mewn t卯m, rheoli amser a TG fel eich bod yn gallu gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau.

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer gyrfa ym maes iechyd y cyhoedd neu reolaeth gofal cymdeithasol neu i'ch cefnogi i symud ymlaen o bosib i gwrs iechyd mewn prifysgol megis nyrsio, bydwreigiaeth a gwyddoniaeth barafeddygol.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych chi'n gweithio yn y sector iechyd a gofal ar hyn o bryd neu'n gweithio ynddo
... Ydych chi am ddatblygu eich gyrfa ymhellach
... Ydych chi'n ystyried symud ymlaen ymhellach i gwrs arall sy'n gysylltiedig 芒 gofal iechyd

Beth fyddaf yn ei wneud?

Yn ystod y flwyddyn academaidd byddwch yn cwblhau modiwlau megis:

  • Ymchwilio i Iechyd a Llesiant - 20 credyd
  • Y Gyfraith, Moeseg a Pholisi
  • Datblygiad Proffesiynol 1
  • Iechyd Dynol a Chlefyd
  • Sgiliau Astudio ar gyfer Addysg Uwch

Dulliau asesu tra byddwch ar y rhaglen:

Bydd y dulliau asesu y byddwch yn eu defnyddio yn ystod eich amser yn astudio gyda ni yn cynnwys: ysgrifennu adroddiadau, cyflwyniadau, datblygu posteri academaidd, ysgrifennu adfyfyriol, portffolios seiliedig ar waith, adolygiadau llenyddiaeth, dadansoddi achosion cymhleth a rheoli newid. Y dulliau eraill a ddefnyddir yw traethodau, profion MCQ, cyflwyniadau, cyflwyniadau ar bosteri, profion canolfan asesu, arholiadau a gwaith gr诺p.

Ar 么l cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus byddwch yn derbyn Tystysgrif Addysg Uwch ar Lefel 4.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Beth sy'n ddisgwyliedig gen i?

Fel arfer, bydd angen o leiaf un o'r canlynol arnoch:

48 pwynt UCAS - cyfrifiannell tariffau UCAS

Mynediad at AU pan fyddwch wedi cyflawni Diploma Llwyddiant gyda 45 Pas

Hefyd:

Llwyddiannau mewn tri phwnc TGAU gradd C neu鈥檔 uwch, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith (neu鈥檔 gyfwerth).

Sylwch hefyd y bydd ceisiadau i'r cwrs yn cael eu hystyried yn unigol. Manylir ar y gofynion mynediad arferol uchod ond os nad ydych yn聽bodloni'r meini prawf hyn, yna bydd eich profiad gwaith a bywyd yn cael ei ystyried.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Mae鈥檔 bosibl y gallwch ymgeisio ar gyfer gradd nyrsio neu ofal iechyd (yn amodol ar gyflawni unrhyw ofynion mynediad ychwanegol ar gyfer y cwrs a ddewiswyd) neu symud ymlaen i flwyddyn dau o鈥檔 Gradd Sylfaen mewn Rheolaeth Iechyd, Llesiant a Gofal Cymdeithasol, a gynigir yn ein parth dysgu yn Nhorfaen (Cwmbr芒n).

Fel arall, yn dilyn y rhaglen hon, gallech fynd ymlaen i gyflogaeth mewn amrywiaeth o sefydliadau gofal iechyd megis y GIG, prosiectau iechyd cymunedol, y sector preifat, gwaith adsefydlu neu ofal cymdeithasol. Gallwch hefyd wneud cais am gyrsiau eraill sy'n ymwneud ag iechyd, megis nyrsio, bydwreigiaeth a gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol ac iechyd y cyhoedd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae'r cwrs hwn wedi'i ryddfreinio gan Brifysgol De Cymru.

Efallai y byddwch angen llyfrau o restr ddarllen, fodd bynnag fe'ch anogir i ddefnyddio'r llyfrgell ac adnoddau ar-lein.

Rydym yn ail-ddilysu cyrsiau yn rheolaidd er mwyn sicrhau ansawdd a gwelliant

Yn 麻豆传媒团队, rydym yn adolygu ein cyrsiau'n rheolaidd mewn ymateb i batrymau newidiol o ran cyflogaeth a'r galw am sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig profiad dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu atoch i鈥檆h hysbysu ac i drafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw darparu鈥檙 sgiliau a鈥檙 meddylfryd i鈥檔 myfyrwyr i lwyddo beth bynnag ddaw yfory. Eich dyfodol, diogel ar gyfer y dyfodol

Cod UCAS 4A82

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio Tystysgrif mewn Addysg Uwch: Iechyd a Lles Cymunedol?

EFCE3722HE
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 17 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a鈥檜 canslo os tybir nad yw鈥檔 bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu鈥檔 ansicr ai hwn yw鈥檙 cwrs addas i chi?

Cysylltwch 芒鈥檔 T卯m Recriwtio Myfyrwyr