Cyflwyniad i Golur Parti
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Crosskeys
Ffioedd
£35.00
Dyddiad Cychwyn
29 Hydref 2024
Dydd Mawrth
Amser Dechrau
09:30
Amser Gorffen
16:00
Hyd
09:30 - 16:00
Yn gryno
Bydd y cwrs undydd hwn yn rhoi arweiniad gam wrth gam ar gyfer creu’r colur perffaith ar gyfer parti.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
…y rhai sy’n ymddiddori mewn colur
…unrhyw un sy’n awyddus i ddysgu rhagor am y diwydiant ac am gyrsiau eraill
…y rhai sydd eisiau gwella’u technegau coluro presennol er mwyn dilyn y ffasiwn ddiweddaraf
Cynnwys y cwrs
Byddwch yn dysgu sut i wneud y canlynol:
- Glanhau eich croen trwy ddefnyddio technegau glanhau sylfaenol
- Rhoi colur sylfaen, colur aroleuo a cholur cuddio yn y ffordd gywir
- Rhoi colur ar y llygaid a’r gwefusau
- Glanhau eich brwshis a’ch offer yn y ffordd gywir
Yn ystod y cwrs, byddwch yn rhoi colur ar eich croen eich hun fel ffordd o wella eich technegau – ni fydd yn ofynnol ichi weithio ar bobl eraill yn y dosbarth.
Gofynion Mynediad
Nid oes yna unrhyw ofynion ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn, ond mae’n hanfodol ichi fod â diddordeb brwd yn y pwnc.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd y cwrs yn cael ei gynnal yn ein stiwdio goluro bwrpasol. Mae cyrsiau undydd eraill i’w cael, yn cynnwys:
- Cyflwyniad i Baentio Wynebau
- Cyflwyniad i Effeithiau Arbennig (toriadau, cleisiau a chlwyfau)
- Cyflwyniad i Guddliw Cosmetig
- Cyflwyniad i Dechnegau Henna
- Cyflwyniad i Driniaethau ar gyfer y Dwylo a’r Ewinedd
- Cyflwyniad i Driniaethau ar gyfer y Llygaid
- Cyflwyniad i Adweitheg
- Cyflwyniad i Dylino’r Corff
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CPCE3634AA
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 29 Hydref 2024
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr