Torri 芒 Laser ac Argraffu 3D
Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Celf a Dylunio, y Cyfryngau, Ffotograffiaeth
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad
Campws Crosskeys
Ffioedd
£20.00
Dyddiad Cychwyn
30 Ebrill 2025
Dydd Mercher
Amser Dechrau
18:00
Amser Gorffen
20:00
Hyd
5 wythnos
Yn gryno
Ydych chi am greu fersiwn o鈥檆h hoff g锚m fwrdd a wnaethpwyd 芒 llaw? Ydych chi am greu byrddau unigryw a darnau chwarae ar gyfer dyluniad eich hun o g锚m fwrdd ? Efallai eich bod am greu tir sy鈥檔 edrych yn broffesiynol ar gyfer eich brwydrau pen bwrdd. Dyma'r cwrs i chi!
Yn y cwrs saern茂o digidol hwn byddwn yn mynd dros hanfodion Modelu 3D, Argraffu 3D a thorri Laser. Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i ddechreuwyr gael dealltwriaeth o sut i brototeipio syniadau ar gyfer gemau pen bwrdd. Bydd y cwrs yn canolbwyntio ar feithrin sgiliau a hyder gan ddefnyddio ystod o argraffwyr 3D, meddalwedd modelu, torwyr Laser a meddalwedd ddylunio sy'n eich galluogi i gael y gorau o'ch argraffydd 3D a'ch torrwr Laser fel hobi neu ar gyfer busnes.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... unrhyw un sydd am ddysgu am argraffu 3D a thorri laser ar gyfer hob茂au, fel gwneud modelau a gemau pen bwrdd i grefftau, dylunio cynnyrch a pheirianneg.
Cynnwys y cwrs
Byddwch yn ymdrin 芒:
- Dylunio eich modelau 3D eich hun yn Autodesk Maya a Blender
- Dylunio eich byrddau gemau eich hun a defnyddio torrwr laser i dorri nhw ar ddalennau o bren haenog neu rai acrylig
- Meistroli gosodiadau meddalwedd 鈥渟leisio鈥 priodol ar gyfer y canlyniadau printio gorau
- Sefydlu eich argraffydd ar gyfer adlyniad haen gyntaf da
- Dod o hyd i ffeiliau parod am ddim i'w lawrlwytho a'u hargraffu eich hun
- Cael argymhellion ar ba argraffydd a meddalwedd 鈥渟leisio鈥 i ddechrau gyda
- Creu graffeg fector a chanllawiau torri ar gyfer ystod o ddeunyddiau dalen wastad
Bydd y cwrs hwn yn mynd 芒 chi ar daith trwy'r broses o brototeipio g锚m pen bwrdd gyfan - o ddylunio eich modelau 3D eich聽hun ar feddalwedd ddylunio 3D, i wedyn eu paratoi i'w hargraffu yn y feddalwedd 鈥渟leisio鈥, ac yn olaf argraffu darnau neu ffigurau鈥檙 gemau. Bydd y cwrs hwn yn dangos i chi gam wrth gam o'r dechrau i'r diwedd sut mae'r broses argraffu 3D gyfan yn gweithio. Gall edrych yn llethol, ond mewn gwirionedd mae'n anhygoel o syml ac yn hawdd i'w wneud.
Bydd angen i chi fod yn bresennol yn rheolaidd ac yn frwdfrydig dros y pwnc.
Gofynion Mynediad
Bydd gofyn i chi feddu ar wybodaeth sylfaenol am ddefnyddio cyfrifiadur personol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae鈥檙 Ysgol Celfyddydau Creadigol yn cynnig casgliad o gyrsiau gydol y flwyddyn.
Y cyrsiau rydym yn eu cynnig ar hyn o bryd yw:
- Tecstilau
- Cerameg
- Gwneud Printiau
- Ffotograffiaeth
- Argraffu 3D
- Ymarfer Llesiant Creadigol a'r Celfyddydau
- Sgiliau DJ gan ddefnyddio Ableton Live
- Y Celfyddydau Perfformio
- Canu ar gyfer Pleser
- Ysgrifennu Creadigol
- Uwchgylchu Dodrefn a Chrefft
- Gwneud Gemwaith
- Lluniadu Digidol gan ddefnyddio Procreate
- Lansio Menter/Busnes Creadigol
Ar 么l i'r cwrs hwn bydd llwybr dilyniant i chi gofrestru ar y cwrs saern茂o digidol Uwch.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CCCE3516AD
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 30 Ebrill 2025
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Ar 么l archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar 么l y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiat谩u os ydych chi鈥檔 bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw鈥檙 polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a鈥檜 canslo os tybir nad yw鈥檔 bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu鈥檔 ansicr ai hwn yw鈥檙 cwrs addas i chi?
Cysylltwch 芒鈥檔 T卯m Recriwtio Myfyrwyr